P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o arian ar gyfer gwasanaethau bysiau, er mwyn iddi ymlynu wrth amcanion ei pholisi ei hun o leihau tlodi ac allgáu, a sicrhau nad yw pobl ar draws Cymru o dan unrhyw anfantais cymdeithasol nac economaidd oherwydd eu lleoliad.

Gwybodaeth ychwanegol: Nod y ddeiseb hon yw cynyddu’r arian a gaiff ei roi i ardaloedd anghysbell, a than anfantais yng Nghymru. Mae nifer o ardaloedd awdurdodau lleol wedi gorfod lleihau amlder y bysiau a’r dewis o lwybrau bysiau sydd ar gael ers i’r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei gyflwyno. Mae nifer o breswylwyr yn teimlo’n ynysig oherwydd hwn, yn arbennig ar benwythnosau ac ar ddyddiau gŵyl banc.

 

Prif ddeisebydd: Daniel Thomas

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 11 Tachwedd 2013

 

Nifer y llofnodion: 246